Sbotolau Clinigol Wolfson: Gwella mynediad at driniaethau seicolegol ar gyfer problemau’n ymwneud â gorbryder mewn plant
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![banner for the advertised talk](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2808660/Clinical-spotlight-Cathy-Creswell-2024-4-18-11-47-55.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae problemau gorbryder yn gyffredin iawn ac aml yn dechrau yn gynnar mewn bywyd. Er hynny, dim ond ychydig o deuluoedd sy’n cael cymorth ar sail tystiolaeth pan all hyn fod o fudd iddynt. Yn dilyn archwiliadau manwl o’r hyn y mae teuluoedd ei angen ac ei eisiau er mwyn goresgyn y rhwystrau sy’n eu hwynebu wrth gefnogi plant cyn y glasoed, rydym wedi canolbwyntio ar ddefnyddio dulliau digidol dan arweiniad therapydd i helpu rhieni a gofalwyr i gefnogi eu plant.
Bydd y drafodaeth hon yn rhoi trosolwg o’r cefndir hwn a chanfyddiadau cadarnhaol treialon diweddar ar gyfer defnyddio’r dull hwn i drin ac i atal gorbryder.
Mae’r gyfres o seminarau hon yn addas ar gyfer ymarferwyr sy’n gweithio ym maes iechyd meddwl plant a’r glasoed.