Surviving Translation
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Digwyddiad gyda Dr Charlotte Bosseaux, Prifysgol Caeredin, fel rhan o’r thema ymchwil Astudiaethau Diwylliannol a Gweledol Trawswladol
Byddwn ni’n dangos y ffilm, Surviving Translation (rhaglun o’r ffilm), sef rhaglen ddogfen sy’n treiddio’n ddwfn i foeseg cyfieithu a gafodd ei chynhyrchu ar y cyd gan Dr Charlotte Bosseaux (Prifysgol Caeredin). Mae'r ffilm hon yn rhan o brosiect ymchwil Charlotte, sef Ethical Translation. Darllenwch drosolwg llawn o’i phrosiect ymchwil. Bydd Charlotte yn cyflwyno'r ffilm gyntaf, ac yna, bydd sesiwn holi-ac-ateb yn dilyn y ffilm.
Ffilm: Surviving Translation (Charlotte Bosseaux a Ling Lee, 2023)
Roedd Rejeen Musa yn is-deitlydd yn gweithio ar y ffilm, 'Surviving Translation', pan ddechreuodd y geiriau roedd hi'n eu cyfieithu hel atgofion poenus o'i gorffennol. A hithau’n fudwr Cwrdaidd benywaidd ac yn gyfieithydd, Rejeen fu’r cyfrwng y mae'r ffilm yn ei ddefnyddio er mwyn mynd i’r afael â themâu megis trawma a’r canlyniadau dwys y gall cam-gyfieithu eu hachosi. Mae’r ffilm hon yn cyfuno tystiolaeth gignoeth, delweddau barddonol, ac ymchwil academaidd, i gyd mewn myfyrdod unigryw ar gyfieithu, ynysu, ac ystyr 'cartref'.
Bywgraffiad
Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caeredin yw Dr Charlotte Bosseaux. Ei phrif ddiddordebau ymchwil yw’r llais, perfformio a chymeriadu ym maes cyfieithu, ac sy’n cynnwys ac yn ymestyn dros wahanol feysydd. Mae hi wedi gweithio ar y testun ‘safbwyntiau’ ym maes cyfieithu llenyddol (monograff: How does it Feel: Point of View in Translation, Rodopi, 2007) ac mae hi bellach yn ymchwilio i ddeunydd clyweledol. Hi yw awdur Dubbing, Film and Performance: Uncanny Encounters (Peter Lang, 2015) ac ar hyn o bryd, mae hi’n ysgrifennu am raglenni dogfen sy’n trafod sut y mae lleisiau’r rheiny sydd wedi dioddef a goroesi Trais ar Sail Rhywedd yn cael eu trosi yn y cyd-destun hwn (2020, Prosiect AHRC 2022-2023: The Ethical Demands of Translating Gender-Based Violence: a Practice-Based Research Project. Bydd y prosiect hwn yn cael ei gyhoeddi’n fonograff, Palgrave 2024). Yn rhan o’i phrosiect Ethical Translation roedd creu rhaglen ddogfen amlieithog, a dod o hyd i strategaethau o ran is-deitlo a throsleisio er mwyn ceisio cyfleu emosiynau’r rhai gwreiddiol yn y ffordd orau. Yn ddiweddar, fe wnaeth hi gyhoeddi ar y testun ‘amlieithrwydd’ yn AVT (Jane the Virgin, 2023). Ymhlith ei chyhoeddiadau eraill y mae gweithiau ar Marilyn Monroe, Julianne Moore, a Buffy the Vampire Slayer. Mae ei hymchwil arall yn trin a thrafod cerddoriaeth (2011, a Christine and the Queens, sef gwaith sydd ar ddod yn 2024), a ffuglen trosedd (2018).
Trefn y digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Iau 2 May i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.
Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Asesiad risg
Cynhaliwyd asesiad risg ar gyfer y digwyddiad hwn. Os hoffech weld copi o'r asesiad risg, e-bostiwch mlang-events@caerdydd.ac.uk
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS