Darlithoedd Canolfan Wolfson: Ymyriadau ysgolion at ddiben hybu iechyd meddwl ymysg pobl ifanc
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Er mwyn ceisio atal problemau iechyd meddwl rhag dod i’r amlwg, mae’n rhaid targedu a goresgyn amgylcheddau cymdeithasol niweidiol, a hyrwyddo amgylcheddau anogol, a hynny drwy gydol y cwrs bywyd cynnar. Mae amgylchedd yr ysgol yn ofod pwysig i'w ystyried yng nghyd-destun magu iechyd meddwl cadarnhaol ymysg glaslanciau. Yn y ddarlith hon, disgrifir sut y mae ymyrraeth ar lefel ysgol gyfan, sy’n cael ei chynnig gan gwnselwyr lleyg, yn gallu arwain at effeithiau fuddiol ar amgylchedd yr ysgol, iechyd meddwl a bwlio, a hynny mewn modd sylweddol, cynyddrannol a chynaliadwy.
Vikram Patel yw Athro Paul Farmer a Chadeirydd yr Adran Iechyd Byd-eang a Meddygaeth Gymdeithasol yn Ysgol Meddygaeth Harvard. Yn ogystal â'i rôl yn gadeirydd adran ac ymrwymiadau addysgu, mae Dr. Patel yn arwain y labordy Mental Health for All yn Harvard. Ffocws ei waith hyd yn hyn yw’r baich a achosir gan broblemau iechyd meddwl, eu cysylltiad ag anfantais gymdeithasol, a'r defnydd o adnoddau’r gymuned er mwyn ceisio eu hatal a’u trin.
Caiff y ddarlith hon ei chynnal gan Canolfan Wolfson a'i chefnogi gan Y Rhwydwaith Iechyd Byd-eang