Digon ar Arbenigwyr?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Yn ein sefyllfa presennol o argyfwng parhaol, mae rôl yr arbenigwr wedi dod yn un sy'n cael ei werthfawrogi, ei archwilio a'i wleidyddoli ar yr un pryd.
Mae cydnabod bod angen arbenigwyr nawr yn fwy nag erioed i fynd i’r afael â’r ystod o heriau byd-eang sydd o’n blaenau – boed yn bandemig, newid hinsawdd, neu gostau byw – wedi dod â rôl arbenigedd i’r amlwg. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae arbenigwyr hefyd wedi wynebu heriau a bygythiadau difrifol i'w hawdurdod a'u dylanwad gan ystod o actorion economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol.
Yn y sesiwn hon, bydd Dr Cara Reed a’r Athro Mike Reed yn trafod eu hymchwil diweddaraf ar dranc posibl pŵer a dylanwad arbenigwyr ac arbenigedd mewn cymdeithas ac yn dangos sut yr amlygodd hyn yn ystod pandemig Covid. Byddant hefyd yn tynnu sylw at sut y gallai ail-ddychmygu arbenigwr sy’n fwy ‘ategol, deinamig, a dadleuol’ adfywio pŵer ac awdurdod galwedigaethau arbenigol - boed yn sector corfforaethol, academaidd neu gyhoeddus.
Nid yw’r ail-ddychmygu hwn heb ei heriau, a bydd y Sesiwn dros Frecwast hwn hefyd yn trafod yr angen i arbenigwyr ymdrin ag ystod ehangach o randdeiliaid, gan berswadio pobl fwyfwy o’u harbenigedd, a thrafod y risg o gael eu cyfethol ar agendâu eraill.
Am fwy o wybodaeth gallwch ddarllen ein Erthygl Trafod a manylion y llyfr.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU