Darlithoedd Canolfan Wolfson: Problemau sylfaenol yn y sylfaen dystiolaeth o ran trin iselder ymhlith y glasoed
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae dau brif ddull o roi triniaeth ar gyfer iselder ymhlith y glasoed: seicotherapi, meddyginiaeth, neu gyfuniad o’r ddau. I ble mae rhywun yn troi i gael gafael ar y dystiolaeth fydd yn llywio ei opsiynau o ran triniaeth? Mae'r cwestiwn hwn yn berthnasol i gleifion a'u gofalwyr, i glinigwyr ac i lunwyr polisïau wrth iddyn nhw gynllunio gwasanaethau. Fodd bynnag, mae'r cwestiwn yn arbennig o anodd ei ateb ym maes iselder ymhlith y glasoed, pan fydd data treialon penben ar feddyginiaeth a seicotherapi yn gyfyngedig a phan fydd yn rhaid i argymhellion felly ddeillio o gymariaethau anuniongyrchol o ran effeithiolrwydd triniaethau.
Yn y cyflwyniad hwn, bydd yr Athro Argyris Stringaris yn trafod a all y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer triniaethau iselder ymhlith y glasoed gynnig atebion dilys i gwestiynau o’r fath. Bydd yn cyflwyno fframwaith cysyniadol er mwyn ateb cwestiynau o’r fath, gan ddadlau tri phwynt:
- Mae'n debygol y bydd y sawl sy’n cymryd rhan mewn treialon Seicotherapi a Meddyginiaeth yn dod o boblogaethau gwahanol ac mae hyn yn bygwth y casgliadau a wneir wrth eu cymharu y naill â’r llall.
- Mae'r rheolaethau a ddefnyddir mewn treialon seicotherapi a meddyginiaeth i drin iselder ymhlith y glasoed yn amrywio’n ansoddol, ond hefyd o ran eu heffeithiau gan awgrymu na allant gynrychioli’r un “cyflwr rheoli”, h.y. gwrthffaith rhesymol sy’n esbonio sut y byddai pethau pe na bai rhywun wedi derbyn triniaeth.
- Nid yw amodau rheoli seicotherapi mewn treialon sy’n ymwneud ag iselder ymhlith ieuenctid, ar gyfartaledd, yn cyfateb yn dda i’r amodau ymyrryd (e.e. nifer yr oriau y bydd person yn agored iddynt, nifer y sesiynau, hygrededd y cyflwr rheoli), a bydd hyn yn arwain at bryderon ynghylch a yw’r rhain yn gymaryddion teg, yn unol a’r safonau y byddai rhywun yn eu disgwyl yn gyffredinol gan ymyraethau eraill yn y gwyddorau iechyd.
Mae'r Athro Argyris Stringaris yn trafod y materion hyn yng ngoleuni canllawiau, gwneud penderfyniadau clinigol a bydd yn gwneud rhai awgrymiadau ynghylch treialon y dyfodol.