Deall Tsieina’n Well: Te Tsieineaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mercher 28 Chwefror 2024
Canolfan Bywyd y Myfyrwyr, Ystafell 1.24 a 1.25
18:30 tan 20:00
Croeso i bawb
Mae ein sgyrsiau Deall Tsieina’n Well, a arweinir gan diwtoriaid o Sefydliad Confucius Caerdydd, yn gyfle gwych i ddysgu mwy am ddiwylliant ac iaith Tsieineaidd. O gelf, ffilm a cherddoriaeth Tsieineaidd i'r Sidydd Tsieineaidd a Chymeriadau Tsieineaidd, mae rhywbeth i bawb ei ddarganfod a'i fwynhau.
Mae'r sgwrs hon yn cynnwys te Tsieineaidd, gan gynnwys:
- Seremoni te Tsieineaidd gyda'r cyfle i flasu te gwahanol. Edrychwch ar y wybodaeth ddeietegol isod.
- Y tu mewn i dŷ te Tsieineaidd
Cyflwynir y ddarlith yn Saesneg.
Mynediad am ddim, ond cofrestrwch os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth ddeietegol
Te gwyrdd
Effeithiau cadarnhaol
Clirio llid, gostwng braster a chynorthwyo treuliad, adfywio'r meddwl a dywedir ei fod yn helpu i atal clefyd cardiofasgwlaidd.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Anhunedd (insomnia), gwendid nerfol (neurasthenia), gorthyroidedd; anhwylderau treulio; yn feichiog, neu os ydych yn bwydo o’r fron.
Mathau
Emei Mountain Maofeng; Longjing Tea; Biluochun Tea; Xinyang Maojian Tea; Taiping Monkey
Te melyn
Effeithiau cadarnhaol
Clirio llid a lleithio'r ysgyfaint, brwydro yn erbyn llid yr afu, gormodedd o fraster a phoen stumog.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Anhwylderau'r arennau, curiad calon gyflym (tachycardia), gwendid nerfol.
Mathau
Te Nodwyddau Arian Junshan (nodwyddau pîn); te melyn Huoshan
Te tywyll
Effeithiau cadarnhaol
Gostwng braster a chymhorthion treuliad, brwydro yn erbyn siwgr gwaed uchel.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Insomnia, gorbwysedd neu yn Llysieuwr
Mathau
Te tywyll Hunan; te bric Sichuan; te pur Yunnan
Te gwyn
Effeithiau cadarnhaol
Yn cynorthwyo treuliad, dywedir ei fod yn rhoi hwb i'r ymennydd, o gymorth os ydych yn ceisio colli pwysau, gwrth-bacteriol a gwrthlidiol.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Mislif, neurasthenia
Mathau
Nodwyddau Brig-wyn; Rhosyn Gwyn y Mynydd; Te Ael Hir
Te Oolong
Effeithiau cadarnhaol
Dywedir ei fod yn lleihau celloedd brasterog yn y gwaed, yn helpu i golli pwysau, o fudd i harddwch a gofal croen, yn iachusol ac yn adfywio'r ymennydd.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Gwendid ac anaemia, gwendid nerfol, rhwymedd/rhwymdra
Mathau
Wuyi Rock; Red Robe Tea; Cassia Tea; Narcissus; Iron Goddess Tea
Te du
Effeithiau cadarnhaol
Yn addas ar gyfer pob oed, yn maethu'r stumog a'r ddueg, yn dileu blinder ac yn cynhyrchu hylifau.
Peidiwch ag yfed te os oes gennych chi:
Anemia a gwendid, poen stumog, neu'n feichiog
Mathau
Keemun Du; Lapsang Souchong; Jin Jun Mei
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB