Aur ynghudd mewn maen: dod o hyd i becyn cymorth gwaith aur o’r Oes Efydd gynnar
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Digwyddiadau sy’n rhad ac am ddim yw ein darlithoedd cyhoeddus, ac maen nhw’n denu cynulleidfaoedd sy’n amrywio o’r cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor cil y drws ar feysydd o ddiddordeb ym maes gwyddorau’r Ddaear a’r amgylchedd, a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.
Does dim amheuaeth nad yw ein dealltwriaeth o bwysigrwydd darganfyddiadau archaeolegol yn gysylltiedig â’r datblygiad a’r defnydd ehangach o fethodoleg wyddonol.
Yn rhan o’r gyfres hon o ddarlithoedd cyhoeddus eleni, rydym yn croesawu siaradwyr hynod ddiddorol ac yn ymchwilio i ddefnydd o rai o dechnegau geowyddonol ac amgylcheddol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o hanes ac amgylcheddau’r gorffennol, yma yn ne Cymru a ledled y byd.
Cynhelir Cyfres Darlithoedd misol 2023/24 yn Narlithfa Wallace (Ystafell 0.13), Prif Adeilad. Mae'r darlithoedd yn dechrau am 18:30.
Nid oes angen cadw lle ar gyfer y darlithoedd.
Prifysgol Caerdydd
Park Place
Caerdydd
CF10 3AT