Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd: Cymru Can: Cyflawni nodau llesiant Cymru ar rôl ar gyfer busnes
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ym mis Tachwedd 2023, lansiodd Derek Walker Cymru Can, sy’n nodi strategaeth newydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar gyfer 2023 – 2030 a’i weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru. Yn y sesiwn hon, bydd y Comisiynydd yn amlinellu’r dull y mae’n bwriadu ei ddefnyddio dros y saith mlynedd nesaf ac yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd tîm y Comisiynydd yn gweithio ac yn mesur ei effaith. Mae Cymru Can yn amlinellu pum cenhadaeth ar gyfer y Comisiynydd: Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; Hinsawdd a Natur; Diwylliant; Economi Iechyd a Llesiant – a dwy thema drawsbynciol, bwyd a digidol & AI.
Ni fydd Cymru’n cyflawni ei huchelgeisiau Cenedlaethau’r Dyfodol heb gynnwys pawb yng Nghymru – y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyd yn cydweithio. Bydd y sesiwn hon yn amlygu’n benodol sut mae busnesau yng Nghymru yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a bydd yn rhoi syniadau i chi i helpu’ch sefydliad i gyfrannu’n weithredol at nodau llesiant Cymru.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU