Gŵyl Flwyddyn Newydd Tsieineaidd 2024 Ar-lein ar gyfer ysgolion cynradd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of a cartoon Chinese dragon](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0005/2791175/Chinese-New-Year-Online-Festival-2024-1-26-13-45-38.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ar ddydd Gwener 9 Chwefror o 9:00 – 15:00, bydd tiwtoriaid yn ffrydio ystod amrywiol o sesiynau rhyngweithiol yn fyw i'ch disgyblion eu mwynhau.
Ymhlith y pethau y bydd y disgyblion yn eu gwneud yn y sesiynau mae dysgu caneuon Mandarin syml, dysgu pa anifail ydyn nhw yn y sidydd Tsieineaidd, torri papur a chael gwybod am opera Tsieineaidd. Bydd y disgyblion hyd yn oed yn gallu cyfathrebu â'n tiwtoriaid drwoch chi, a hynny drwy'r opsiwn sgwrsio!
A chithau’n athro, gallwch chi gofrestru i ymuno â rhai neu bob un o’r sesiynau byw gyda’ch dosbarthiadau. Fel arall, os na allwch chi gymryd rhan ar y diwrnod, gallwch chi gael y recordiadau. Byddwn ni hefyd yn anfon adnoddau a gweithgareddau ychwanegol atoch chi er mwyn i chi eu defnyddio gyda'ch disgyblion yn eich amser eich hun.
Er bod y sesiynau byw ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3 i 6 yn bennaf, byddwn ni’n anfon adnoddau/gweithgareddau at yr athrawon i’w defnyddio gyda phlant iau.