Marathon Casnewydd Cymru ABP
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth am redeg un o farathonau gwastadaf y DU a rhoi cynnig ar guro eich amser gorau ym Marathon Casnewydd Cymru ABP ar 28 Ebrill 2024. Mae Marathon Casnewydd Cymru ABP yn newydd i #TeamCardiff. Rydym wedi cael gafael ar nifer fach iawn o leoedd elusennol yn y ras boblogaidd hon, sef un o'r cyrsiau marathon mwyaf gwastad yn Ewrop. Mae dros 70% o'r holl orffenwyr wedi curo eu hamser gorau ar lwybr sy'n mynd heibio tirnodau eiconig fel Pont Gludo’r ddinas a Gwastadeddau Gwent. A chithau’n rhan o #TeamCardiff gallwch ddewis cefnogi naill ai niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd, neu ymchwil canser. Drwy gefnogi'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr, gallwch helpu i gyflymu darganfyddiadau sy'n newid bywydau er mwyn gwella atal, diagnosis a thriniaeth i bobl sy'n byw gydag ystod eang o gyflyrau. Mae ymchwilwyr canser ym Mhrifysgol Caerdydd yn gwella canlyniadau i bobl sy'n byw gyda rhai o'r canserau mwyaf cyffredin megis y fron, y prostad a'r coluddyn, yn ogystal â'r rhai sy'n fwy prin neu'n anodd eu trin. Mae ymchwilwyr niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl Prifysgol Caerdydd yn datblygu triniaethau newydd ar gyfer ystod eang o gyflyrau gwanychol gan gynnwys ADHD, iselder, sgitsoffrenia, a Chlefyd Alzheimer. Gwnewch gais ar gyfer lle elusennol gyda #TeamCardiff Oes gennych chi eich lle eich hun ym Marathon Casnewydd Cymru, neu eisiau gosod eich targed codi arian eich hun? Byddem yn dwlu pe byddech yn ymuno â #TeamCardiff Byddwch yn derbyn yr un gefnogaeth â'n rhedwyr lleoedd elusennol (gan gynnwys eich top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heb yr isafswm o ran targed codi arian. Cadwch eich lle ar wefan Marathon Casnewydd Cymru. Yn ogystal â'r Marathon, mae yna ras Hanner Marathon a ras 10k. Pa bynnag bellter rydych yn dewis ei redeg, dywedwch wrthym yr hoffech ymuno â #TeamCardiff! Bydd 100% o'r arian y bydd Prifysgol Caerdydd yn ei dderbyn drwy’r ymdrechion codi arian hyn yn cael ei ddefnyddio’n uniongyrchol ar gyfer y maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol. |
Newport Riverfront
Usk Way
Casnewydd
NP20 2BP