Dathliadau’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd yng Nghanolfan y Ddraig Goch
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of a Chinese Lion in blue and white entertaining a crowd of people](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2787871/Chinese-New-Year-Dragon-2024-1-12-14-14-26.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ymunwch â Sefydliad Confucius Caerdydd, ar y cyd â Chanolfan y Ddraig Goch, i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: Blwyddyn y Ddraig.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd yn brynhawn arbennig yn llawn adloniant.
Bydd cyfle i ddysgu am ddiwylliant Tsieina rhwng 12:00 a 16:00, gan fwynhau ystod o weithgareddau traddodiadol dan arweiniad tiwtoriaid Sefydliad Confucius Caerdydd, boed yn dorri papur, yn galigraffi, gwneud llusernau a mwy.
Ochr yn ochr â’r gweithdai, bydd hefyd adloniant gan Lew Tsieineaidd cyfeillgar a charismatig yn ystod y dydd. Bydd y *cymeriad bywiog hwn yn troelli drwy’r dathliadau ac yn ymwneud â’r ymwelwyr yn ystod ymddangosiadau 20 munud y bwriadwn eu cynnal am 12:30, 14:00, a 15:30.
*sylwer nad perfformiad dawns y llew yw hwn.
Nid oes angen cadw lle, y cwbl mae’n rhaid gwneud yw mynd i Ganolfan y Ddraig Goch rhwng 12:00 a 16:00.
The Red Dragon Centre
Atlantic Wharf
Caerdydd
CF10 4JY