Gŵyl y Flwyddyn Newydd a Llusernau Tsieineaidd 2024
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â Sefydliad Confucius Caerdydd, ar y cyd â Llyfrgell Ganolog Caerdydd a’r Gymuned Tsieineaidd leol, i ddathlu’r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd: Blwyddyn y Ddraig.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim a bydd y rhai sy’n bresennol yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau a mwynhau perfformiadau ar gyfer pob oedran, gan gynnwys:
- Cwrdd â'r Duw Cyfoethog i gasglu eich 'Amlen Goch' yn llawn bendithion
- Dawns y Llew
- Blasu Te
- Chwedleua Diwylliannol
- Caligraffeg
- Gwyddbwyll Tsieineaidd
- Sesiwn dangos KungFu
- Cerddoriaeth a Dawnsiau Tsieineaidd
- Meddygaeth Tsieineaidd Draddodiadol
- Cyfle i wisgo Gwisgoedd Traddodiadol
Nid oes angen cadw lle, dewch draw i'r llyfrgell rhwng 12:00 a 15:00.
Mae’n bosibl y bydd rhaglen y gweithgareddau’n newid heb roi gwybod ymlaen llaw.
Hyb Llyfrgell Ganolog
The Hayes
Caerdydd
CF10 1FL