Bod yn Wyddonydd!
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
I ddathlu Gŵyl Wyddoniaeth Caerdydd, ymunwch â ni'r hanner tymor hwn yn ein digwyddiad am ddim, Bod yn Wyddonydd!
Gall bod yn wyddonydd olygu cymaint o wahanol bethau. Rydym am roi blas i chi o'r hyn y mae gwahanol wyddonwyr yn ei wneud a sut mae gwyddoniaeth yn effeithio ar ein bywydau bob dydd.
Rydym wedi cynllunio diwrnod llawn gweithgareddau rhyngweithiol ac arbrofion diddorol i chi brofi sut beth yw bod yn Wyddonydd. Mae gennym moduron magnetig, peirianneg drydanol, posau anhygol, gweithdai cyfrinachol y gallwch eu harchebu ar y diwrnod a llawer mwy – hyd yn oed y gwyddorau efallai nad ydych erioed wedi clywed amdanynt!
Mae rhywbeth yma i bawb, ni waeth a ydych chi'n 10 neu'n 100! Rydym yn gyffrous i gyflwyno meddyliau gwych o bob rhan o'r Brifysgol a rhai busnesau lleol cyfeillgar, gan gynnwys CSA Catapult, sy'n sicr o danio'ch dychymyg... Allwch chi fod yn Beiriannydd y Dyfodol?
Mae cyfleusterau caffi ar gael ar gyfer byrbrydau, cinio neu hyd yn oed slice o gacen. Mae parcio â thâl cyfyngedig o gwmpas yr ardal felly beth am barcio yn yr amgueddfa a chael diwrnod allan! Wrth deithio ar Fws Caerdydd, gallwch ddod o hyd i ni ar teithiau bysiau 21, 24, 27, 35.
Mae adeilad sbarc|spark yn hygyrch i bawb a bydd yr holl weithgareddau'n cael eu cynnal ar y llawr gwaelod. Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd penodol, cysylltwch â ni – impact-engagement@cardiff.ac.uk
Ni allwn aros i gwrdd â rhai gwyddonwyr y dyfodol - welwn ni chi yno!
Ariannwyd gan Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru ac Y Cyfrif Cyflymu Effaith wedi’i Gysoni
sparc, Prifysgol Caerdydd
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ