Deall sut mae diet braster uchel yn cynyddu'r risg o ganser y pancreas
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Canser y pancreas yw'r 10fed canser mwya’ cyffredin yn y DU âg un o'r rhagolygon gwaethaf o unrhyw ganser - dim ond 5% sy’n goroesi 10 mlynedd. Mae hyn oherwydd ei bod yn anodd diffinio'r symptomau nes bod y clefyd wedi datblygu, ac ni ellir ei drin mwyach.
Mae canfod yn gynnar yn hanfodol i wella goroesiad ac atal cynnydd yn nifer y marwolaethau yn y dyfodol. Mae deall bioleg clefydau yn gam hollbwysig i ddatblygu ffyrdd canfod cynnar newydd.
Clywch gan Dr Catherine Hogan, Darlithydd a Joshua D'Ambrogio (Biowyddorau 2021-) Myfyriwr Doethuriaeth o Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd (ECSCRI) sy'n ymchwilio sut mae diet braster uchel a gordewdra (ffactorau risg) yn achosi canser pancreatig cynnar, a allai ddatgelu targedau ar gyfer therapïau yn y dyfodol.