Cyfres Gweminarau Caerdydd-Siapan - Tymhorau’r Enaid: Barddoniaeth Waka a Llunio Diwylliant Siapan
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Darlith gyhoeddus gyda Dr Thomas McAuley, Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Japaneaidd ym Mhrifysgol Sheffield
Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024
12:00 - 13:00
Ar-lein dros Zoom
Croeso i bawb
Gwybodaeth am y gyfres
Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath.
Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.
Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain
Crynodeb
Blodau ceirios yn y gwanwyn, dail masarn fflamgoch yn yr hydref, canu crics mawr yn yr haf ac eira mân yn y gaeaf: caiff yr holl ddelweddau hyn eu defnyddio a'u hailddefnyddio’n aneirif yn y cyfryngau Japaneaidd, a hwythau’n amrywio o fideos gwybodaeth ar gyfer twristiaid i'r cynyrchiadau anime diweddaraf, heb sôn am sut mae'r rhain, a symbolau tymhorol tebyg, yn ymddangos ar fwydlenni, ac o fewn siopau a swyddfeydd tocynnau ledled Japan er mwyn nodi treigl y flwyddyn.
I raddau mawr, mae’r rhain yn ddelweddau sydd bellach yn diffinio ac yn disgrifio Japan fodern, ac er hynny, deillia bob ohonynt o ddelweddau confensiynol a ddatblygwyd rhwng yr 8fed ganrif a’r 12fed ganrif mewn barddoniaeth waka gan aristocratiaid a oedd yn byw ym mhrifddinasoedd cynnar Japan, sef Nara a Heian-kyō (Kyoto).
Bydd y ddarlith hon yn olrhain datblygiad waka o'i dyddiau cynharaf drwy ei defnydd ymysg uchelwyr y gymdeithas yn ffurf gain a diwylliedig, ac a ellid ei defnyddio, er hyn oll, at ddibenion gwleidyddol, hyd at ei hamlygiad terfynol yn ffurf lenyddol a fyddai’n dominyddu’r diwylliant uchel yn Japan, ac yn dylanwadu ar y diwylliant isel, ymhell ar ôl i'r gymdeithas a'i cynhyrchodd darfod o’r tir. Bydd yn trafod sut y cafodd barddoniaeth ei chynhyrchu, ei beirniadu a'i diogelu ar gyfer cenedlaethau diweddarach drwy amryw o antholegau a thestunau eraill, a sut y mae’r rhagoriaeth ddiwylliannol a briodolir i waka yn parhau, hyd heddiw, i gael ei dylanwadu gan ardaloedd ledled Japan sy’n sefydlu gerddi botanegol ac yn eu hyrwyddo, at ddiben arddangos y planhigion a grybwyllir yn yr antholeg waka gynharaf sy’n bodoli yn Japan, sef Man'yōshū.
Bywgraffiad
Mae Dr Thomas McAuley yn Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Japaneaidd ym Mhrifysgol Sheffield, ac mae’n arbenigwr ar farddoniaeth a diwylliant cyn-fodern yn Japan.
Ymhlith ei gyhoeddiadau yw cyfieithiad llawn o’r testun Roppyakuban uta'awase ('Poetry Contest in Six Hundred Rounds'; 1193-94) a sylwebaeth arno, sy’n un o’r testunau barddonol a beirniadol mwyaf arwyddocaol y cyfnod.
Yn gyfieithydd profiadol, mae'n cyhoeddi cyfieithiadau newydd o farddoniaeth gyn-fodern Japan yn aml ar ei wefan, www.wakapoetry.net.
Ymhlith ei brosiectau cyfredol ydy astudiaeth o agweddau beirniaid y cyfnod cyn-fodern tuag at gynnwys deunydd a ddylanwadir gan ddiwylliant Tsieina mewn barddoniaeth waka ac effaith rhywedd y beirdd ar eu harfer o ysgrifennu cerddi.
Trefn y digwyddiad a recordio
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher, 17 Ionawr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd.
Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.