Pam mae merched yn llai tebygol o gael diagnosis o ADHD na bechgyn?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn gyflwr niwroddatblygiadol sy'n effeithio ar tua 5% o blant a 3% o oedolion. Mae ADHD yn llai tebygol o gael ei ddiagnosio mewn merched a phan gaiff ei gydnabod, mae diagnosis yn dueddol o fod yn hwyrach na dynion.
Ymunwch â ni i glywed gan Dr Joanna Martin (PhD 2015), sy’n Uwch Gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, am yr ymchwil diweddaraf ar esboniadau posibl am y gwahaniaeth rhyw hwn a welwyd mewn diagnosis ADHD. Clywch sut mae defnyddio cofnodion cleifion GIG dienw yn rhan o’r ymchwil gweithredol hwn.