Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd - Cynhyrchiant yng Nghymru: Ar Drywydd gwyrth?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Productivity](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0010/2780191/Productivity-2023-11-13-14-50-21.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Bydd Sesiwn Hysbysu dros Frecwast olaf 2023 yn cael ei gynnal ar Ddydd Gwener Rhagfyr 1af, pan fydd yr Athro Andrew Henley, arweinydd Cymru ar gyfer y Sefydliad Cynhyrchiant a Fforwm Cynhyrchiant Cymru yn ymuno gyda ni i ofyn y cwestiwn, “Cynhyrchiant yng Nghymru - ar drywydd gwyrth?
Mae twf cynhyrchiant busnes yn hanfodol i greu ffyniant sy’n galluogi gweithwyr i fwynhau gwelliannau yn eu safon byw ac i gyflawni amcanion llesiant ehangach y gymdeithas. Mae cynhyrchiant yn cael ei ysgogi, ymhlith pethau eraill, gan arloesi, sgiliau, arferion rheoli da, seilwaith cyhoeddus a phenderfyniadau buddsoddi preifat. Fodd bynnag, mae gan y DU un o’r lefelau uchaf o wasgariad cynhyrchiant yn yr OECD ar draws y gwledydd a’r rhanbarthau datganoledig, gyda Chymru wedi’i lleoli ar y gwaelod neu’n agos iawn ato.
Bydd y Sesiwn Hysbysu dros Frecwast hwn, sy’n rhan o Wythnos Gynhyrchiant Genedlaethol y Sefydliad Cynhyrchiant, yn archwilio her enfawr cynhyrchiant Cymru ac yn asesu’r potensial ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU