Hanner Marathon Caerdydd Hydref 2024
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Rhedwch Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff a chodi arian ar gyfer ymchwil Prifysgol Caerdydd.
Ar 6 Hydref 2024, bydd Hanner Marathon Caerdydd yn dychwelyd i strydoedd y brifddinas, lle bydd miloedd o bobl yn rhedeg 13.1 milltir ar un o gyrsiau mwyaf gwastad y DU.
Ewch ati i ymuno â #TeamCardiff – tîm codi arian Prifysgol Caerdydd – a dewis codi arian ar gyfer naill ai ymchwil niwrowyddoniaeth ac iechyd meddwl neu ymchwil canser y Brifysgol. Drwy ymuno â #TeamCardiff, byddwch yn helpu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr i wneud darganfyddiadau sy'n newid bywydau’n gynt er mwyn gwella sut mae amrywiaeth eang o gyflyrau’n cael eu hatal, eu diagnosio a’u trin.
Gwnewch gais am le elusennol ar #TeamCardiff
Gwnewch gais i ymuno â #TeamCardiff yn Hanner Marathon Caerdydd ar 6 Hydref 2024. Os ydych yn rhedeg Hanner Marathon Caerdydd yn rhan o #TeamCardiff mae’n rhad ac am ddim! Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw codi isafswm nawdd o £250 ar gyfer y maes ymchwil Prifysgol o’ch dewis.
Ymunwch â #TeamCardiff â'ch lle eich hun
Os oes gennych eich lle eich hun yn barod, neu os byddai'n well gennych osod eich targed codi arian eich hun, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â #TeamCardiff! Byddwch yn cael yr un gefnogaeth â'n rhedwyr â lle elusennol (gan gynnwys top rhedeg #TeamCardiff rhad ac am ddim), heblaw’r targed codi arian. Rhowch wybod i ni os hoffech ymuno â #TeamCardiff â’ch lle eich hun.
Bydd 100% o'r arian a godwyd gennych yn mynd yn uniongyrchol i'r maes ymchwil o’ch dewis yn y Brifysgol.
Castle Street
Caerdydd
CF10 3RB