Adnoddau a dulliau ym maes ieithyddiaeth corpws i addysgu gramadeg y Sbaeneg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Image of José María García-Miguel Gallego on a gold background](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0011/2777582/76fec928dbcb42747152a45829abae54120985f6.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn agored i bawb
Darlith gyhoeddus
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Sbaeneg.
Crynodeb
Mae corpysau ieithyddol yn darparu data meintiol sy’n ddefnyddiol i ieithyddion ac athrawon iaith gan eu bod yn defnyddio data meintiol bywyd go iawn. Ym maes addysgu iaith, gellir defnyddio corpws yn ffynhonnell wybodaeth i greu deunyddiau addysgegol yn ogystal â’i ddefnyddio’n uniongyrchol at ddibenion dysgu sy'n seiliedig ar ddata. Gall corpws ddarparu samplau o’r defnydd cyd-destunol o unrhyw ymadrodd yn ogystal ag amlder y data, gan ganiatáu inni astudio cyfuniadau o elfennau sy’n digwydd yn fynych. Mae corpysau anodedig megis CORPES neu CdE yn caniatáu i’r defnyddiwr wneud chwiliadau mwy haniaethol er mwyn ystyried categorïau gramadegol. Mae corpysau sy’n cynnwys anodiadau ar gystrawen a semanteg yn caniatáu i’r defnyddiwr fireinio ei chwiliadau’n fwyfwy i ganfod cyfuniadau penodol.
Bywgraffiad
Mae José María García-Miguel Gallego yn Athro ym maes Ieithyddiaeth Gyffredinol ym Mhrifysgol Vigo. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Santiago de Compostela ym 1992 am ei draethawd ymchwil:"Aspects of clausal structure: transitivity and prepositional complements in Spanish."
Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar astudio strwythurau gramadegol gan ddefnyddio astudiaeth o fewn un iaith benodol yn seiliedig ar gorpysau, yn ogystal â dull teipolegol sy’n ystyried egwyddorion cyffredinol sy'n sail i'r gwahaniaethau a'r tebygrwydd rhwng ieithoedd a’i gilydd. Mae ganddo gyhoeddiadau ar adeiladwaith cymalau wrth greu strwythur ac ystyr, falensi berfol, ffwythiannau cystrawennol a semantig, gogwyddeiriau rhagenwol, y stâd ganol, diathesis eiledol ac ati. O ran yr agweddau hyn, bu’n arweinydd ar amryw o brosiectau ymchwil a arweiniodd at gronfa ddata ferfau, diathesis eiledol a fframweithiau semantig cystrawen y Sbaeneg (ADESSE).
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mawrth, 31 Hydref i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS