Yw Llyfrgelloedd yn Wyrdd? Cynaladwyedd Mewn Llyfrgelloedd Academaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
- Beth yw dyfodol cynaladwyedd mewn Prifysgolion?
- Beth yw cyfraniad llyfrgelloedd tuag at gynaladwyedd?
- Sut y gallai cynaladwyedd gwybodaeth gyfrannu at yr agenda werdd?
Ymunwch â phanel o siaradwyr diddorol fydd yn craffu ar faes adeiladau, yr amgylchedd, mynediad at wybodaeth a pholisi cyhoeddus – wrth i ni archwilio rôl llyfrgelloedd academaidd a’u cyfraniad tuag at gynaladwyedd. Dilynir y cyflwyniadau gan sesiwn cwestiwn ac ateb, a chyfle i rwydweithio.
Mae’r digwyddiad am ddim, ar agor i bawb, cofrestrwch i fynychu arlein neu i’r digwyddiad corfforol. Saesneg fydd iaith y digwyddiad.
21 Tachwedd 2023
17:30 - 19:30 (Llundain)
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol Rhodfa Colum
Caerdydd CF10 3EU
Mae Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd yn ganolfan arbenigedd sy’n rhan o’r Gwasanaeth Llyfrgell – yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd ar unrhyw fater Ewropeaidd, gwledydd a rhanbarthau Ewrop, sefydliadau cenedlaethol a rhyng-genedlaethol, gan gynnwys gweithgareddau a pholisiau yr Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae'r siaradwyr yn cynnwys:
- Guiseppe Vitiello, cyfarwyddwr Biwro Ewropeaidd Cymdeithasau Llyfrgelloedd, Dogfennaeth a Gwybodaeth (EBLIDA)
- Yr Athro Gobinda Chowdhury, athro mewn Gwyddorau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Strathclyde a chyn-gadeirydd iSchool
- Dr. Hiral Patel, Darlithydd mewn Pensaernïaeth a Chyfarwyddwr Ymgysylltu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Arts and Social Studies Library
Rhodfa Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU