Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023: Dewch i ni Archwilio Lles! - Ysgolion
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol 2023: Dewch i ni Archwilio Lles!
I ddathlu Gŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol eleni, hoffai Prifysgol Caerdydd wahodd ysgolion cynradd ac uwchradd i archwilio ein hymchwil a'r amrywiaeth o ffyrdd y mae'r gwyddorau cymdeithasol yn cefnogi lles gydol oes yn ein diwrnod 'Dewch i Archwilio Lles!'.
Yn unol â’r cwricwlwm newydd i Gymru, nod y digwyddiad yw meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o’r gwyddorau cymdeithasol wrth archwilio gwahanol gydrannau lles.
Bydd disgyblion Blwyddyn 6, 7 ac 8 yn cael y cyfle i archwilio stondinau rhyngweithiol, arddangosion a gweithdai grwpiau bach a gyflwynir gan ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol o Brifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor. Bydd y bobl ifanc hefyd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadleuaeth lle gallant ddweud wrthym beth mae lles gydol oes yn ei olygu iddyn nhw.
Os hoffech chi ddarganfod mwy am ein rhaglen digwyddiadau ysgol neu gofrestru i fynychu, e-bostiwch: monktons@cardiff.ac.uk .
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ