Seminar Ymchwil Cerddoriaeth John Bird - Gwenno Saunders
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae Gwenno Saunders yn gyfansoddwraig, cynhyrchydd, a chantores sy'n gweithio ym myd cerddoriaeth, ffilm, a theatr. Ar draws ei thri albwm unigol sydd wedi derbyn canmoliaeth y beirniaid – Y Dydd Olaf (2014), Le Kov (2018) a Tresor (2022) – mae Gwenno yn canu caneuon cof yn Kernewek (Cernyweg), Cymraeg, a Saesneg, ieithoedd ei magwraeth.
Mewn sgwrs â Dr Joe O’Connell (Darlithydd, Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd), bydd Gwenno yn trafod yr offer allweddol ar gyfer ei chreadigedd, gan roi cipolwg ar ei phrosesau, pwysigrwydd iaith i’w bwriadau cerddorol, a sut mae hi'n ystyried bod cydweithredu hirdymor yn hanfodol i'w datblygiad artistig.
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB