Sgwrs gydag AI
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sydd ymlaen? Am beth mae’r digwyddiad?
Ydych chi’n awyddus i wybod mwy am yr effaith ddofn a gaiff deallusrwydd artiffisial (AI) ar y cyfryngau? Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad rhyngweithiol hwn a fydd yn treiddio'n ddwfn i'r croestoriad cyfareddol yma, a chawn gipolwg unigryw ar fyd lle mae AI yn mynnu’r holl sylw mewn cyfweliad newyddiadurol a ddychmygir.
Yn ein hoes ddigidol a esblyga’n gyflym, nid yw AI bellach yn gyfyngedig i’r ffuglen wyddonol - mae'n rym go iawn sy'n newid y ffordd yr ydyn ni’n casglu newyddion ac yn eu defnyddio. Bydd y digwyddiad hwn yn darparu senario diddorol i ni, lle y mae system AI yn camu i le newyddiadurwr, i godi uwchlaw’r ffiniau rhwng y bod dynol a’r peiriant, er mwyn ein herio ni i ailystyried ein dealltwriaeth o’r ddau. Bydd gan ymwelwyr y cyfle i ryngweithio ag AI a phrofi trwy eu llygaid eu hunain y natur realistig a grëir gan y dechnoleg yma.
Ydy’r cynnydd a welir mewn AI o fewn meysydd sy’n draddodiadol ar gyfer bodau dynol yn cyffroi’ch chwilfrydedd? Nid chi yw’r unig un. Pwrpas ein digwyddiad yw eich sbarduno i fyfyrio ar AI a’i amlygrwydd cynyddol, i’r fath raddau y mae bellach wedi ennill statws enwog mewn meysydd fel newyddiaduraeth.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Dr Daniel Finnegan, EngD, FHEA, Athro Cyswllt (Uwch Ddarlithydd) ym Mhrifysgol Caerdydd
Mr Konstantinos Hadjigregoriades, Myfyriwr
Hassan Kamal Zafar, Swyddog Datblygu a Chyflawni yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg ym Mhrifysgol Caerdydd
Jana Jhaveri, Myfyriwr yn Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, Prifysgol Caerdydd
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Parc Cathays
Caerdydd
CF103NP