Darlith Hamlyn 2023 (Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd)
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Ymunwch â ni ar gyfer noson gyffrous yn y ddarlith gyntaf yng nghyfres Darlithoedd Hamlyn 2023; bydd yn ddigwyddiad cyfareddol a fydd yn ysbrydoli ac yn addysgiadol. Mae’n bleser gennym gyd-gynnal y digwyddiad hwn gyda Chymdeithas Ddysgedig Cymru ar ran Ymddiriedolaeth Hamlyn.
Traddodir y ddarlith gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd ar y testun 'Cyfreithiau cenedl a chyfreithiau masnach drawswladol'. Mae'r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i ehangu eich gwybodaeth a chysylltu ag unigolion o'r un anian â chi.
Cynhelir y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn ddydd Iau, 5 Hydref, 2023 am 18:30, yn Narlithfa 0.22, Adeilad y Gyfraith, Rhodfa'r Amgueddfa, Caerdydd CF10 3AX. Gofynnir i westeion fod yn eistedd yn barod yn y ddarlithfa erbyn 18:15, ac mae gwahoddiad cynnes i bob un o’r gwesteion ymuno â ni mewn derbyniad anffurfiol o 17:15 ymlaen - darperir lluniaeth ysgafn.
Nodwch y digwyddiad yn eich calendrau ac ymunwch â ni yn Narlith Hamlyn 2023 ar gyfer noson fythgofiadwy o ysbrydoliaeth ac o ehangu gwybodaeth. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu!
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost i LAWPL-Research@caerdydd.ac.uk felly a gallwn wneud trefniadau addas.
Law Building
Rhodfa'r Amgueddfa
Caerdydd
CF10 3AX