"Dywedodd aderyn bach wrtha i ...": Ysbiwyr ac ysbïwriaeth y Byd Canoloesol.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae'r syniad o adar bach, fel yn 'dywedodd aderyn bach wrtha i', yn adnabyddus ac yn awgrymu cael gwybodaeth gyfrinachol a/neu fod ffynhonnell y wybodaeth honno'n gyfrinachol.
Yn fwy diweddar, mae'r syniad o adar bach wedi troi'n gysyniad cyffredin trwy Game of Thrones lle maent yn aelodau o rwydwaith o ysbïwyr a hysbyswyr yng ngwasanaeth yr Arglwydd Varys, Meistr Sibrydion.
Mewn gwirionedd, mae'r adar bach yn bodoli yn y dystiolaeth ganoloesol, a bydd y ddarlith hon yn cyflwyno peth o'r deunydd hynod ddiddorol sy'n ein galluogi i astudio ysbïwyr ac ysbïwriaeth yn yr Oesoedd Canol.