Cerddoriaeth Cymraeg a Māori: Half/Time gyda Rhys Trimble a Pheiriant
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![The members of Half/Time](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2717454/The-members-of-HalfTime-2023-4-28-15-9-46.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Ymunwch â ni am gig arbennig fel rhan o brosiect rhyngwladol sy’n ymchwilio cerddoriaeth Cymraeg a’r sîn pync Māori.
Yn y digwyddiad hwn, bydd perfformwyr o Gymru ac Aotearoa (Seland Newydd) yn dod at ei gilydd, gyda’r band Māori Half/Time yn perfformio ochr yn ochr â'r band Peiriant a’r bardd Rhys Trimble.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect ymchwil rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Waikato.
Academyddion o Brifysgol Caerdydd yn gweithio gyda chydweithwyr o Brifysgol Waikato yn Seland Newydd i ddod o hyd at gysylltiadau rhwng te reo Māori (yr iaith Māori), te ao Māori (y byd / y byd-olwg Māori) a diwylliant Cymraeg drwy’r olwg o gerddoriaeth lawr gwlad.
Dilynwch ni ar Instagram @prosiectpuutahitanga
Park Street
Swansea
Swansea
SA1 3DJ