Ensemble Baróc Prifysgol Caerdydd: Cyngerdd Gwanwyn
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Cardiff University Baroque Ensemble](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2712795/Cardiff-University-Baroque-Ensemble-2023-3-28-14-30-31.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Y tymor hwn bydd yr Ensemble Baroc yn archwilio cerddoriaeth o faes eang Ewropeaidd y ddeunawfed ganrif. O Fiena clywn agorawd I Pallade e Marte, darn na chlywir yn aml gan Maria Margherita Grimani. O Loegr ceir gerddoriaeth dawns gan Ignatius Sancho, a symffoni gan Carl Friedrich Abel (i ddathlu 300 mlynedd ers ei eni yn 1723), ac anthemau ar gyfer y Foundling Hospital gan y cyfansoddwr oedd gyda diffygion gweledol John Stanley, a chan Thomas Grenville. O Naples cawn glywed Stabat Mater eiconig Giovanni Pergolesi, a gyfansoddwyd yn ôl pob sôn pan oedd yn 26 oed ac ar ei wely angau. Bydd yn hyfryd cael perfformiad modern cyntaf o Gaude Mater Ecclesia gan Haydn Corri a gyfansoddwyd ar gyfer y lleianod Dominicaidd yn Cabra, Dulyn. Ymunwch â ni i wrando ar gerddoriaeth grefyddol a seciwlar dyrchafol o’r cyfnod galente yn acwsteg gwych Eglwys S. Awstin, Penarth.
3 St Augustine's Pl
Penarth
Penarth
CF64 1BJ