Ewch i’r prif gynnwys

Byddwch yn barod: A allwn ragweld yr argyfwng nesaf a bod yn barod i'w reoli?

Dydd Llun, 17 Ebrill 2023
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

White king piece checkmates a black king piece

Mae argyfyngau fel y rhyfel yn Wcráin, y pandemig diweddar a newid hinsawdd yn cael effaith ddofn ar bob un ohonom. Rydym i gyd yn agored i niwed – gall effeithiau argyfyngau ymestyn i bob rhan o gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. 

Ac eto, ar yr un pryd, mae gennym alluoedd digynsail ar gyfer rhagweld argyfyngau a rheoli risg. Rydym yn byw mewn oes ddigidol, lle gellir rhannu gwybodaeth a data ar unwaith, 24/7.

Beth yw'r ffyrdd o ragweld, paratoi ar gyfer a hyd yn oed atal argyfyngau yn y dyfodol? Sut rydym yn deall natur y risgiau a wynebwn ni, a sut y gellir eu rheoli?

Pan fydd argyfwng yn taro, beth sydd angen i ni ei wybod wrth benderfynu ar gamau gweithredu effeithiol? Sut ydyn ni'n gwneud synnwyr o wybodaeth a data sy'n dod i mewn? A oes modd meithrin ymddiriedaeth ar draws ein cymunedau, a sefydlu cyfathrebiadau effeithiol?

Ymunwch â’n panel o arbenigwyr i drafod y materion hollbwysig hyn, lle byddwn yn ystyried rhai o’r gwersi a ddysgwyd o’r argyfyngau diweddar a’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Byddwch chi, y gynulleidfa, yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r ddadl. Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb.

Rhannwch y digwyddiad hwn