Unfamiliar Landscapes: Lansio’r Llyfr a Thrafod Amrywiaeth ym maes yr Awyr Agored
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Unfamiliar Landscapes Book Cover](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0004/2711578/Unfamiliar-Landscapes-Book-Cover-2023-3-21-8-39-51.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Dyddiad ac Amser: 12 Ebrill 2023, 16:30 – 18:30
Lleoliad: Ystafelloedd Pwyllgor, Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd
Fformat: Wyneb yn wyneb
Sign up here: https://www.eventbrite.co.uk/e/unfamiliar-landscapes-book-launch-and-discussing-diversity-in-the-outdoors-tickets-575991986537
Lansio ein casgliad golygedig: “Unfamiliar Landscapes: Young People and Diverse Outdoor Experiences”, bydd yr awduron yn cyflwyno themâu'r llyfr, a bydd cyfraniadau o feysydd ymarfer ac ymchwil.
Yn dilyn y lansiad bydd trafodaethau mewn grwpiau bychain, er mwyn trafod plant, pobl ifanc ac amrywiaeth ym maes yr awyr agored; bydd yn gyfle i archwilio dyfodol ymarfer, ymchwil a thrafodaethau ym maes astudiaethau plentyndod ac ieuenctid, natur a'r awyr agored, ac arferion addysgol yn y lleoliadau hyn.
Bydd cyfle i ennill copïau o'r llyfr yn wobrau raffl, a bydd hefyd amser i rwydweithio, a diodydd a danteithion.
Y llyfr
Yn ffrwyth llafur blynyddoedd lawer o ymchwil gan Smith, Pitt a Dunkley, ac ystod o awduron eraill y casgliad golygedig hwn (25 awdur), ac yn defnyddio tystiolaeth o faes ymarfer (penodau 'trafodaethau gydag ymarferwyr' gyda 4 ymarferydd ym maes yr awyr agored), mae gan Unfamiliar Landscapes y potensial i gael cryn effaith ar feysydd ymarfer, polisi ac ymchwil. Mae'r llyfr yn sôn am sut y gall(ai) dysgu a gweithgareddau yn yr awyr agored, nawr ac yn y gorffennol, fod wedi’u hymgorffori mewn diwylliannau o allgáu. Trwy drafod amrywiaeth o ran hil, rhywedd, a gwahaniaethau o ran oedran, mae'n archwilio sut y gall tirweddau gael eu gwneud yn bethau sy’n anghyfarwydd i bobl ifanc, a sut y gall tirweddau gael eu lleoli felly hefyd, ac mae hefyd yn datgelu rhai o'r prosesau hynny sy’n peri i bobl ifanc gael eu gwneud i deimlo’n anghyfarwydd mewn tirweddau (h.y. drwy wahaniaethau corfforol, diwylliannol neu o ran rhywedd).
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA