Negodi Cytundeb Belffast/Dydd Gwener y Groglith: 25 blynedd yn ddiweddarach
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Bydd digwyddiad cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd yn nodi 25 mlynedd ers Cytundeb Belffast/Dydd Gwener y Groglith, a bydd gan negodwyr allweddol yn y DG a gymerodd ran yn y trafodaethau a oedd yn paratoi'r ffordd ar gyfer datganoli, sefydlogrwydd a sylfeini heddwch yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd yr Athro Christopher Maccabe, a oedd yn Gyfarwyddwr Swyddfa Wleidyddol, Swyddfa Gogledd Iwerddon ac yn Gyd-ysgrifennydd Prydeinig Cynhadledd Rynglywodraethol Iwerddon Prydain, yn ymweld â Chaerdydd ar 10 Mawrth. Roedd gan yr Athro Maccabe ran amlwg yn y trafodaethau a bydd yn cynnig cipolwg a phersbectif unigryw.
Mae'r Athro Niall O'Dochartaigh, o Brifysgol Galway, wedi ymchwilio'n helaeth i'r trafodaethau a bydd yn cyfweld â'r Athro Maccabe ochr yn ochr â Giada Lagana a Thomas Leahy o Brifysgol Caerdydd, gan edrych ar ddeinameg y llwyfan blaen a'r sianel gefn a yrrodd y trafodaethau tuag at gytundeb.
Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, Canolfan y Gyfraith a Chymdeithas, a Chymdeithas Astudiaethau Ewropeaidd Cyfoes Iwerddon (IACES) yn cyd-gynnal y digwyddiad yn Adeilad Morgannwg y brifysgol, a fydd yn defnyddio'r fformat cyfweliad cyhoeddus.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA