Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd - Cyngerdd Gwanwyn: Kalinnikov, Dvorak, Jenkins
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![CUSO](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2703534/CUSO-2023-2-20-17-55-35.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd yn perfformio eu cyngerdd diwedd semester o dan arweiniad arweinydd newydd, Margarita Mikhailova. Mae'r rhaglen yn cyflwyno detholiad o gerddoriaeth lawn cymeriad, dawns ac asbri i ddal naws tymor y Gwanwyn. Gall edmygwyr Borodin a Tchaikovsky fwynhau eu cyfoeswr llai adnabyddus, Kalinnikov gyda'i Symffoni 1af nodedig fel agoriad y cyngerdd. Yna fe gyflwynir Dawnsfeydd Slafonaidd bywiog Dvořák i ni, yn seiliedig ar batrymau dawns Gorllewin Slafaidd, sef furiant, dumka, polka a sousedská. Yn gorffen ar nodyn Cymreig, bydd côr a soddgrwth unigol yn ymuno â'r Gerddorfa ar gyfer y symudiad hyfryd 'Benedictus' o The Armed Man gan Jenkin: A Mass for Peace.
Clos y Gadeirlan
Llandaff
Caerdydd
CF5 2LA