Cyfres Piano: Catherine Milledge & Roger Owens
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae’r Gyfres Piano yn parhau gyda pherfformiad ar ddau biano gan Catherine Milledge a Roger Owens.
Mae’r rhaglen hon yn archwilio cerddoriaeth y repertoire pedwar-llaw – a hynny gan gynnwys trefniadau arwrol o weithiau cerddorfaol gan Brahms a Ravel a deuawadau mwy preifat gan Schubert, darnau a gyfansoddwyd ar gyfer perfformio mwy teuluaidd. Daw’r ddwy elfen hyn ynghyd yn y Rondo gan Chopin ar gyfer dau biano. Clywir yma, yn y llif telynegol, y chwareuwyr yn creu naws ymgom.
Bydd myfyrwyr sy’n bianyddion yn gallu elwa a chael ysbrydoliaeth o’r perfformiadau ac efallai yn darganfod dros eu hunain ddeuawdau llai hysbys y repertoire. Ar ddiwedd y cyngerdd clywn ddarn newydd gan gyfansoddwr o’r Ysgol Cerdd, Dr Daniel Bickerton.
RHAGLEN:
Brahms: Amrwiadau ar thema gan Haydn
Schubert: Fantasie yn F leiaf
Chopin: Rondo i Ddau Biano
Schubert: Rondo yn A fwyaf
Ravel: La Valse
Bickerton: FOGBOW
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB