Rhoi pobl yn gyntaf: sut ydyn ni’n gofalu am ein gilydd, yn meithrin gwytnwch ac undod mewn byd sydd mewn argyfwng?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Girl holding umbrella in a grass field](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2693523/Solidarity-as-a-guiding-principle-2023-1-11-16-14-36.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Mae argyfyngau presennol megis y rhyfel yn Wcráin, costau byw ac ynni, y pandemig a newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar fywydau miliynau o bobl yn Ewrop a ledled y byd. Ac eto, mae argyfyngau yn effeithio'n wahanol ar unigolion a chymunedau. Er bod cymaint yn cael eu heffeithio'n negyddol, yn enwedig y rhai difreintiedig mewn cymdeithas, mae eraill yn gallu elwa.
Beth yw argyfwng, a sut mae gwneud yn siŵr ein bod yn cynnig cefnogaeth ddigonol – cymdeithasol, economaidd, iechyd a lles – i’r rhai mewn angen? Sut y gall cymdeithasau ledaenu'r beichiau, yn ogystal â'r manteision, yn deg ac yn gyfiawn? Sut y gall ymdeimlad o undod helpu fel egwyddor arweiniol? A sut mae meithrin gwydnwch a chymunedau cadarn?
Ymunwch â’n panel o arbenigwyr i drafod y materion hollbwysig hyn, lle rydym yn ystyried yr argyfyngau presennol a’r hyn sydd ei angen ar gyfer y dyfodol. Byddwch chi, y gynulleidfa, yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a bod yn rhan o’r ddadl. Mae’r gweminar hwn yn rhad ac am ddim. Croeso i bawb.