Ewch i’r prif gynnwys

Y Refferendwm a Newidiodd Genedl: Ymddygiad pleidleisio yn yr Alban 2014-2019

Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023
Calendar 17:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The Referendum that Changed a Nation

Mae llyfr newydd a fydd yn cael ei lansio mewn digwyddiad cyhoeddus gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd y mis hwn yn rhoi dadansoddiad manwl o Refferendwm Annibyniaeth seismig 2014 a'r siociau a anfonodd yn dilyn hynny, drwy gymdeithas yr Alban.

Gan ddwyn i ystyriaeth ddata o’r Astudiaeth ar Refferendwm yr Alban a’r Astudiaethau ar yr Etholiadau, mae'r llyfr hwn yn rhoi’r dadansoddiad hir-dymor cyntaf o'r modd y bu pleidleiswyr yn ymwneud â'r refferendwm ynghylch annibyniaeth yn 2014 a pha effaith y mae hyn wedi'i chael ar ddewis o ran pleidleisio, ac ar bolareiddio ac ymgysylltu yn yr Alban ers hynny. 

Nawr, mae’r Athro Ailsa Henderson (Prifysgol Caeredin) a Dr Jac Larner (Prifysgol Caerdydd), dau o awduron The Referendum that Changed a Nation (Palgrave MacMillan) ynghyd â’r Athro Robert Johns (Prifysgol Essex) a’r Athro Christopher Carman (Prifysgol Glasgow), yn rhoi trosolwg manwl o’r llyfr newydd, gan ddefnyddio data i egluro sut ymatebodd pleidleiswyr i giwiau (cues) gan bleidiau ac arweinwyr, a sut y daeth annibyniaeth yn brif ffawtlin gwleidyddol yn yr Alban.

Mae croeso cynnes i bawb yn y digwyddiad; bydd yn drafodaeth a fydd yn hollbwysig i ddeall gwleidyddiaeth yn yr Alban, a hefyd ei goblygiadau i Gymru a’r DG.

Gweld Y Refferendwm a Newidiodd Genedl: Ymddygiad pleidleisio yn yr Alban 2014-2019 ar Google Maps
Siambr y Cyngor
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn