Imiwnotherapi ar gyfer canser: datblygiad sylweddol neu botensial heb ei wireddu?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![Science in Health Public Lecture series branding](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0003/2693091/SiH-Public-lecture-series-2023-1-10-13-39-15.jpeg?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yr Athro Awen Gallimore, Is-adran Heintiau ac Imiwnedd, Ysgol Meddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Mae llawer o wyddonwyr a chlinigwyr wedi ystyried a damcaniaethu rôl y system imiwnedd ym maes canser ers dros 150 o flynyddoedd. Er bod llawer o arsylwadau diddorol a chanfyddiadau arbrofol wedi’u cofnodi yn ystod y cyfnod hwn, dim ond yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf y mae ein dealltwriaeth wyddonol o’r berthynas rhwng y system imiwnedd a chanser wedi datblygu ddigon i allu gwella sut mae rhai cleifion â chanser terfynol yn cael eu trin. Bydd y triniaethau hyn, a elwir yn imiwnotherapïau, yn cael eu trafod yn nhermau'r rhai sy’n bodoli ar hyn o bryd, yn ogystal â’r rhai a allai ddod nesaf.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB