COVID a Pharodrwydd Pandemig I’r Dyfodol
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![COVID and Future Pandemic Preparedness](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0008/2692520/COVID-and-Future-Pandemic-Preparedness-2023-1-6-11-4-18.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Yn ystod y pandemig, cymerodd Prifysgol Caerdydd ran flaenllaw mewn ymdrechion cenedlaethol i ddeall sut y gall haint Coronafeirws achosi i'n systemau imiwnedd ein hamddiffyn a'n niweidio.
Bydd yr Athro Ian Humphreys, Cyd-gyfarwyddwr ac Arweinydd Heintiau a Phandemigau yn y Sefydliad Ymchwil Systemau Imiwnedd, a'r Athro Richard Stanton (BSc 1999, PhD 2003) Pennaeth Heintiau, yr Ysgol Feddygaeth, yn egluro hyn, a sut y gwnaeth ymchwilwyr y Brifysgol fod yn hollbwysig wrth gyfrannu at ddatblygu brechlynnau diogel ac effeithiol.
Clywch am y gwaith barhaus i fynd i’r afael ag effaith wanychol COVID hir, a sut mae etifeddiaeth wyddonol COVID wedi sbarduno ymchwil gyffrous a fydd nid yn unig yn helpu i atal pandemigau yn y dyfodol, ond sydd hefyd â chymwysiadau ehangach ar gyfer clefydau eraill fel canser.