Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Ddarlithoedd Siapan-Caerdydd: Kimono a Ffasiwn yn Japan

Dydd Mercher, 29 Mawrth 2023
Calendar 10:00-11:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Head and shoulders image of Dr Caroline Becke (University of Sheffield) with leaves as backdrop.

Oherwydd y streic ddiwydiannol ychwanegol a gynlluniwyd ar ddydd Mercher 15 Mawrth, mae'r digwyddiad hwn wedi'i aildrefnu am yr eildro. Sylwch fod dyddiad ac amser newydd ar gyfer y digwyddiad hwn - dydd Mercher 29 Mawrth rhwng 10:00 - 11:00 (amser y DU). Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir a gobeithio y gallwch chi fynychu ar-lein o hyd. Fel y sonnir isod, bydd y digwyddiad yn cael ei recordio a'i uwchlwytho i'n sianel YouTube maes o law.

Darlith gyhoeddus ar-lein gyda Dr Carolin Becke (Prifysgol Sheffield) fel rhan o Gyfres Ddarlithoedd Caerdydd-Japan sy'n archwilio agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu Japanëeg. Ariennir y digwyddiad gan Sefydliad Japan, Llundain. Mae recordiadau o'r Gyfres Ddarlithoedd Caerdydd-Japan ar gael i'w gwylio ar ein sianel YouTube. 

Am y gyfres
Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath. Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Crynodeb
Y tu mewn a'r tu allan i Japan, mae’r kimono yn cael ei fframio'n gyffredin fel gwisg genedlaethol Japan, gan briodoli syniadau o draddodiad a pharhad i’r dilledyn. Fodd bynnag, ers sefydlu system ffasiwn eang yng nghyfnod Edo (1603-1868), gwisgwyd kimono mewn gwahanol ffyrdd i gyfathrebu nodweddion unigol a chymdeithasol megis statws, galwedigaeth, rhyw a chwaeth.

Bydd y sgwrs hon yn taflu rhywfaint o oleuni ar y dylanwadau ffasiynol ar y dilledyn trwy archwilio'r cwestiynau canlynol; sut cafodd y kimono ei farchnata gan aelodau'r dosbarth masnach, a ddaeth yn gefnog yn ystod cyfnod Edo? Ym mha ffordd roedd y moga (モガ, 'merched modern') o gyfnod Taisho (1912-1926) yn gwisgo'r dilledyn? Sut mae'r arddull retro, a gafodd amlygrwydd oherwydd cylchgronau fel Kimono Hime (Shōdensha, 2003-2018) a Kimono Anne (TAC Shuppan, 2019-), sy'n gysylltiedig â phoblogrwydd kimono fel dilledyn bob dydd yn y degawdau diwethaf?

Bywgraffiad
Cafodd Dr Carolin Becke PhD mewn Astudiaethau Diwylliannol Japaneaidd o Ysgol Astudiaethau Dwyrain Asia, Prifysgol Sheffield. Archwiliodd ei thraethawd ymchwil ddefnyddiau amrywiol y kimono yn Japan gyfoes, ar sail ei diddordebau ymchwil rhyngddisgyblaethol yng ngwisg, rhywedd, normau, a gwyriadau yng nghymdeithas a diwylliant Japan. Mae blog Dr Becke ar gael i'w ddarllen drwy Wordpress.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 8 Chwefror i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn