Creu lleoedd gwrth-hiliol yng Nghaerdydd a thu hwnt
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Sut mae creu lleoedd a meithrin cymunedau cynaliadwy sy'n gallu herio ac unioni gwaharddiadau a mathau o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder hiliol? Pa fathau o wybodaeth, sgiliau a gallu y mae eu hangen i roi hyn ar waith? A sut y gall sefydliadau addysg uwch feithrin hyn?
Mae meysydd cysylltiedig cynllunio, dylunio trefol a daearyddiaeth ddynol yn cynnig ystod o gipolygon perthnasol yn hyn o beth, ond serch hynny, gellir gwneud llawer mwy i droi ein hastudiaethau critigol yn realiti ymarferol drwy ein hymchwil, ein hymarfer a'n haddysgu.
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o broses barhaus yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio sy’n ceisio dyfnhau ein hymarfer gwrth-hiliol yn unigol ac ar y cyd. Gan ddefnyddio dinas Caerdydd yn fan cychwyn, a chan i’r ddinas gael ei llunio gan densiynau hiliol a sawl anghyfiawnder ddoe a heddiw, mae’r digwyddiad hwn yn dod â phanel o arbenigwyr blaenllaw yn y meysydd hyn ynghyd i drin a thrafod y posibiliadau a’r rhwystrau rhag gwreiddio dulliau gwrth-hiliol yn ein ffyrdd o weithio yn y brifysgol a thu hwnt iddi.