Brenin yr Haul: Cerddoriaeth gorawl ac offerynnol o gyfnod Louis XIV
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Teyrnasodd y brenin Louis XIV fel llywodraethwr absoliwt yn Ffrainc am dros 70 o flynyddoedd. Bu ei balasau godidog ym Mharis a mannau eraill (ond y lleill, ar ôl 1682, yng nghysgod crandrwydd unigryw Versailles) yn dystion i ystod o weithgaredd cerddorol soffitigedig na welwyd ym mlynyddoedd olaf yr ail ganrif ar bymtheg yn unlle yn Ewrop. Cyfansoddodd Henri Du Mont (1610-84) weithiau crefyddol aruchel ar gyfer y capeli Brenhinol tra roedd Jean-Baptiste Lully (1632-87) yn creu golygfeydd ysblennydd a elwid yn tragédie lyrique yn Fontainebleau a chanolfannau eraill.
Ar ddiwedd y ganrif cyfansoddodd Marc-Antoine Charpentier (1643-1704) gerddoriaeth grefyddol ar gyfer Coleg Jeswitaidd Louis-le-Grand tra roedd yr harpsicordydd gwych Elisabeth Jacquet de La Guerre (1665-1729), y ferch gyntaf o Ffrainc i gyfansoddi opera, yn cyflwyno ei Céphale et Procris (1694) yn yr Académie Royale de Musique.
Yn y rhaglen hon bydd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd ac Ensemble Baroc y Brifysgol yn cyflwyno amrywiaeth o weithiau corawl ac offerynnol fydd yn hudolus a swynol i bob clust a phob chwaeth.
Temple of Peace
Cathays Park
Caerdydd
CF10 3AP