Beth sydd ei angen i fod yn Was Cyhoeddus yn yr 21ain Ganrif?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae rhai yn dweud na fu erioed amser anoddach i fod yn was cyhoeddus, ond efallai na fu erioed amser gwell? Yr unig beth sy’n sicr am ddyfodol gwasanaeth cyhoeddus yw ansicrwydd, felly sut ydym yn paratoi ein hunain i ddechrau meddwl yn wahanol, a chwrdd â’r heriau lluosog gyda’n gilydd? Sut mae cefnogi dewrder a bod yn agored i newid?
Yn y Sesiwn Hysbysu hwn, bydd Paul Matthews, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Fynwy, Lisa Knight-Davies, Pennaeth Her Diwylliant Sefydliadol Cyngor Sir Fynwy, ac Owen Wilce, Rheolwr Rhaglen, Infuse, yng Nghyngor Sir Fynwy, yn ymuno gyda ni am sesiwn i hysbysu ac ysbrydoli eich ffordd o feddwl yn ymwneud â Gwas Cyhoeddus yr 21ain Ganrif, a ddarperir gan dri gwas cyhoeddus angerddol a balch.
Ymunwch â ni i glywed y panel yn trafod ble rydyn ni nawr, ble ry’n ni eisiau bod, sut byddwn yn cyrraedd yno, a sut byddwn ni’n gwybod pan fyddwn ni’n cyrraedd?
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU