ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Gadewch i ni siarad am iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb!
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Sesiwn ar-lein yw'r digwyddiad hwn i drafod teimladau a gwybodaeth am iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn defnyddio gweithgareddau darlunio ac ysgrifennu i ystyried materion sy'n ymwneud â'u gwybodaeth am iechyd a ffrwythlondeb y ceilliau, a'u teimladau am drafod iechyd y ceilliau gyda chyfoedion, teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Dilynir hyn gan drafodaeth grŵp ynghylch sut y gall teimladau a gwybodaeth effeithio ar ymddygiad unigolyn wrth geisio cymorth a beth allai gael ei wneud i helpu dynion ifanc i drafod pryderon ynghylch iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb. Gwahoddir y grŵp i wylio pedwar animeiddiad ar iechyd y ceilliau a ffrwythlondeb, a myfyrio ar sut maen nhw’n effeithio ar feddyliau, teimladau a gwybodaeth flaenorol ynghylch y pwnc. Datblygwyd yr animeiddiadau hyn mewn cydweithrediad â Chymdeithas Ffrwythlondeb Prydain.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
China Harrison, Cydymaith Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd
Jacky Boivin, Athro Seicoleg Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn yn addas ar gyfer unigolion 14-25 oed.