Digwyddiad Astudiaeth Etholiad Cymru: 100 mlynedd o oruchafiaeth Llafur Cymru
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Ar y 15fed o Dachwedd byddwn yn nodi canmlwyddiant etholiad cyffredinol 1922, yr etholiad cyffredinol cyntaf lle’r enillodd Llafur y nifer mwyaf o seddau a phleidleisiau yng Nghymru, gan gychwyn cyfres o fuddugoliaethau sydd wedi parhau’n ddi-dor hyd at y dwthwn hwn – record o lwyddiant etholiadol na cheir mo’i thebyg yn y byd democrataidd.
Fel rhan o raglen ehangach o ddigwyddiadau i gofnodi’r canmlwyddiant mae tîm Arolwg Etholiad Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd wedi trefnu digwyddiad arbennig lle bydd data o arolygon yn ymestyn dros gyfnod o dros 40 mlynedd yn cael eu defnyddio i egluro pam fod Llafur yn parhau i ennill yng Nghymru.
Cynhelir y digwyddiad yn Adeilad y Pierhead gyda Catrin Haf Jones yn cadeirio.
Senedd Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN