Gadewch i ni siarad am gig diwylliedig: myfyrdodau ar wleidyddiaeth gymdeithasol tyfu cig mewn cewyll
Mae'r digwyddiad hwn wedi ei ganslo.
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Dr Neil Stephens, Uwch Ddarlithydd mewn Technoleg a Chymdeithas, Prifysgol Birmingham
Mae cig wedi’i dyfu yn dechnoleg newydd sy'n ceisio tyfu celloedd mewn fatiau i gynhyrchu cyhyrau i'w fwyta fel bwyd. Ar hyn o bryd mae'n gyfreithiol ei brynu yn Singapore yn unig, lle mae ar gael mewn meintiau cyfyngedig. Fodd bynnag, gyda bron i 100 o gwmnïau ledled y byd yn gweithio yn y maes, mae'n debygol y bydd yn dod yn gyfreithiol mewn mwy o genhedloedd dros y blynyddoedd i ddod.
Bydd Dr Stephens yn trafod ble mae'r dechnoleg ar hyn o bryd, pam mae pobl eisiau ei chreu, a beth yw'r heriau. Mae cig wedi’i dyfu yn addo dyfodol rhyfeddol. Ond a wireddir y dyfodol hwnnw? Neu a fyddai hwnnw'n ddymunol? Bydd y rhain yn parhau’n gwestiynau agored.
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB