Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2022
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Mae Diwrnod y Cadoediad ddydd Llun 11 Tachwedd 2022 a gwahoddir staff, myfyrwyr ac aelodau o’r cyhoedd i Wasanaeth Coffa’r Brifysgol ac i gymryd rhan mewn Dwy Funud o ddistawrwydd.
Gofynnir i’r rhai sy’n dymuno bod yn bresennol gwrdd yn Oriel John Viriamu Jones (VJ), Prif Adeilad am 10:50am er mwyn i’r digwyddiad allu dechrau ar amser.
Yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan, y Caplan Cydlynu, y Barchedig Delyth Liddell, a Chaplaniaeth Aml-ffydd y Brifysgol fydd yn arwain y Gwasanaeth.
Byddwn yn ffrydio'r digwyddiad yn fyw a chaiff y sawl sy'n dymuno gwylio Gwasanaeth Coffa’r Brifysgol ar-lein, a chadw’r distawrwydd am ddwy funud, wneud hynny ar wefan y Brifysgol o 10:55 ymlaen.
Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2022
Noder y bydd y mynediad at Oriel VJ o fynedfa’r Prif Adeilad ar Rodfa’r Bedol ar gau rhwng 10.50am - 11.20am a rhoddir mynediad o’r Brif Fynedfa yn ystod yr amser hwn i’r rhai a fydd yn mynd i’r Gwasanaeth Coffa yn unig. Ni fydd mynediad at yr oriel ar y llawr cyntaf o Oriel VJ yn ystod y Gwasanaeth a bydd mynediad i’r Llyfrgell Gwyddoniaeth wedi’i gyfyngu.
Ni fydd hyn yn effeithio ar y mynediad i’r Prif Adeilad drwy’r Ysgol Cemeg ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT