Sut ydyn ni'n maddau? Maddau a pheidio â maddau mewn Cyfeillgarwch, Teuluoedd, a Pherthnasoedd Rhamantaidd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
'Rwy'n meddwl bod tawelwch meddwl a maddeuant yn mynd law yn llaw i raddau helaeth'
Beth sy’n cael ei gynnig?
Nod y seminar hwn, sy’n awr o hyd, yw taflu goleuni ar sut mae maddau (a pheidio â maddau) yn chwarae rôl hollbwysig, ond disylw yn aml, yn ein perthnasoedd personol. Bydd canfyddiadau o brosiect ymchwil gymdeithasegol parhaus yn cael eu defnyddio i amlygu’r amryw ffyrdd y mae maddeuant yn berthnasol i berthnasoedd: o gynnal partneriaethau o ddydd i ddydd, a chymodi ar raddfa fach mewn cyfeillgarwch a theuluoedd, i adfer o'r rhai o’r amgylchiadau, camweddau, ac achosion mwyaf heriol o fradychu. Gyda lwc, bydd y cyflwyniad hwn yn ysgogi’r rhai sy’n cymryd rhan i ystyried eu profiadau eu hunain o faddeuant, ac yn ein hannog ni i feddwl am sut y gall perthnasoedd ffynnu a dioddef mewn perthynas â maddeuant.
Er mwyn dangos pa mor gyffredin yw maddeuant yn ein bywydau bob dydd, bydd y digwyddiad yn dechrau drwy gynnal 'Bingo Maddeuant', gan ofyn cwestiynau fel: Ydych chi erioed wedi maddau i ffrind? Oes unrhyw un erioed wedi dweud wrthych chi na ddylech chi faddau i rywun? Dilynir hyn gan drafodaeth am deimladau a phrofiadau o faddeuant gan ddefnyddio enghreifftiau o ganfyddiadau ymchwil Owen Abbott i’n tywys.
Nodyn ar sensitifrwydd
Mae'r sesiwn hon yn cynnwys trafodaethau am faddeuant mewn perthnasoedd personol, a bydd y rhain yn sensitif eu natur yn ôl pob tebyg. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cael eu croesawu i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain os ydynt yn fodlon gwneud hynny. Fodd bynnag, nid oes rhaid gwneud hynny os nad ydych yn teimlo’n gyfforddus. Rhaid parchu trafodaethau am brofiadau pobl, a rhaid gwrando arnynt ac ymateb mewn modd meddylgar. Cefnogir y digwyddiad gan OnePlusone, elusen sydd â dros 50 mlynedd o brofiad o gefnogi perthnasoedd pobl a’u cryfhau. Byddant wrth law i gefnogi’r rhai sy’n cymryd rhan os bydd angen hynny.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Owen Abbot, Cydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Penny Mansfield, Ymchwilydd Arweiniol ar y Cyd yn OnePlusone
Sharron Hirst, Ymchwilydd Arweiniol ar y Cyd yn OnePlusone
I bwy mae'r digwyddiad?
Rhan o’r cysyiniad y tu ôl i’r ymchwil yw y bydd bron pawb wedi cael rhywfaint o brofiad o faddeuant yn eu perthynas, felly mae'r digwyddiad yn agored i unrhyw un.
Adeilad Morgannwg
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WT