Agor drysau ar-lein ac all-lein: cynyddu mynediad at wasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y digwyddiad yn dechrau gyda ffilm fer sy'n dangos taith unigolyn ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth iddo geisio cael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, a rhai o'r rhwystrau y gellir dod ar eu traws. Mae hyn yn arwain at drafodaeth o'r pwnc a fydd yn cynnwys elfen ryngweithiol gyda'r nod o annog cyfranogwyr i ystyried gwasanaethau iechyd meddwl trwy lygaid pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Mae'r ffilm fer a'r gweithgareddau wedi'u cynllunio ar y cyd â phobl ifanc.
Am beth mae'r digwyddiad?
Y pwnc trafod yw anghenion iechyd meddwl pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'r bylchau a'r rhwystrau o ran eu gallu i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl o bell. Gall mynychwyr ddisgwyl dysgu mwy am y pwnc a rhywfaint o'r gwaith cyfredol sy'n cael ei wneud yn y maes hwn.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Aimee Cummings, Myfyriwr PhD gyda CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd
Lorna Stabler, Cydymaith Ymchwil gyda CASCADE ym Mhrifysgol Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae croeso i unrhyw un fynychu, ond mae'r digwyddiad hwn yn fwy addas i unrhyw un sydd â diddordeb yn y pwnc, yn enwedig darparwyr gwasanaethau iechyd meddwl, gweithwyr cymdeithasol, pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, neu eu gofalwyr.
Grange Gardens
Caerdydd
Caerdydd
CF11 7LJ