Bhekizizwe: Hybu amrywiaeth a dealltwriaeth o fewnfudo drwy opera.
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
![-](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/2678730/Bhekizizwe-2022-10-18-13-56-36.png?w=570&h=321&fit=crop&q=80&auto=format )
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y digwyddiad hwn yn seiliedig ar ddangosiad o ffilm Bhekizizwe, sef monodrama operatig gan Mkhululi Mabija (libretydd) a Robert Fokkens (cyfansoddwr), a gynhyrchwyd gan Opera'r Ddraig yn 2021. Bydd y digwyddiad yn cynnwys arddangosfa ryngweithiol fach, dangosiad o’r ffilm a thrafodaeth wedi'i hwyluso ynghylch themâu'r darn, gan gynnwys mewnfudo, amrywiaeth a hiliaeth, gyda phanel o siaradwyr yn cynnwys Tony Hendrickson a Themba Mvula.
Am beth mae'r digwyddiad?
Nod y digwyddiad yw archwilio themâu allweddol yr opera — mewnfudo, hiliaeth, amrywiaeth — a chyfrannu at ddealltwriaeth y cyhoedd a datblygu sgwrs gyhoeddus gadarnhaol ynghylch y materion hyn, yn enwedig yn sector y celfyddydau.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Robert Fokkens, Uwch-ddarlithydd mewn Cyfansoddi ym Mhrifysgol Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae hwn yn agored i bawb dros 16 oed.
O ddiddordeb i
Y rheini sydd â diddordeb yn y celfyddydau perfformio ac yn y materion y mae'r darn yn eu harchwilio. Rydym yn arbennig o awyddus i ymgysylltu â chynulleidfaoedd o’r tu allan i'r gymuned opera draddodiadol, a byddwn yn targedu ein gweithgareddau marchnata i gyflawni hynny.
Grange Gardens
Caerdydd
Caerdydd
CF11 7LJY