ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Inside Out: arddangosfa o ffotograffau a dynnwyd gan Simon ac Anthony Campbell o Tiger Bay
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd hon yn arddangosfa o ffotograffau o'r arddangosfa Inside Out gan ddau frawd o Tiger Bay, sef Anthony a Simon Campbell (meibion Betty Campbell). Daw'r ffotograffau o'r cyfnod rhwng y 1970au a’r 1990au, ac maent yn darlunio delweddau o Butetown a Tiger Bay.
Am beth mae'r digwyddiad?
Bydd yr arddangosfa'n darparu delweddau amrywiol o Gaerdydd a ‘Fy ardal leol’ o blith y rhai sydd fel arfer yn hygyrch, sy'n annog ymwelwyr i ystyried materion sy’n ymwneud â hunaniaeth a pherthyn.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Alyson Rees, Athro yn y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd
Richard Gale, Uwch-ddarlithydd mewn Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Caerdydd
Ymbarél Caerdydd
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae croeso i bawb i’r digwyddiad.
O ddiddordeb i:
Pobl sydd â diddordeb mewn hanes cymdeithasol lleol.
Mae'r arddangosfa hon ar agor drwy gydol yr Ŵyl gyfan, sef 22 Hydref – 13 Tachwedd, 9am–5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA