ESRC Gwyl Gwyddorau Cymdeithasol, Dychmygu dyfodol mwy disglair i ofal cymdeithasol yng Nghymru: beth yw rôl arloesedd?
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Beth sy’n cael ei gynnig?
Bydd y sesiwn dwy awr hon yn weithdy rhyngweithiol wyneb yn wyneb i archwilio barn pobl mewn gofal cymdeithasol a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol gofal cymdeithasol. Mae’r digwyddiad hwn yn archwilio canfyddiadau prosiect ymchwil, a gynhelir ar y cyd gan Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd a’r Tîm Canlyniadau Pŵer Pobl yn Nesta. Edrychodd y prosiect ar gefnogaeth ar gyfer arloesedd ym maes gofal cymdeithasol.
Yn ystod y sesiwn byddwn yn: trafod canfyddiadau’r ymchwil yn fras, edrych ar rai o’r allbynnau gweledol a gynhyrchwyd gan yr ymchwil, rhyngweithio â straeon a safbwyntiau pobl am yr hyn y mae angen ei newid, a mireinio’r 10 Gweledigaeth ar gyfer Dyfodol Gofal Cymdeithasol yng Nghymru y mae ein cyfranogwyr ymchwil wedi ein hysbrydoli i’w chreu.
Am beth mae'r digwyddiad?
Rydym yn gwybod nad yw ein systemau gofal cymdeithasol yn gweithio, ond beth allwn ni ei wneud i newid hynny a chreu Cymru iachach? Os ydych chi'n angerddol am ofal cymdeithasol - dewch i rannu, rhwydweithio a chyfnewid, a dweud eich dweud am yr hyn a ddylai ac a allai ddigwydd. Mae croeso i bawb - yn enwedig y rhai nad ydynt yn gwybod beth yw ystyr y gair 'arloesedd'. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i dargedu at bobl sy’n gwneud gwaith ynghylch gofal cymdeithasol neu’n gweithio ynddo, y rhai sydd â phrofiad bywyd yn ein system gofal cymdeithasol, a’r teuluoedd (neu rwydweithiau cymorth) sy’n ei ddefnyddio.
Pwy sy'n arwain y digwyddiad?
Alexis Palá, Cydymaith Ymchwil yn Y Lab ym Mhrifysgol Caerdydd
Stephanie Griffith, Rheolwr Arloesedd yn sefydliad Gofal Cymdeithasol Cymru
I bwy mae'r digwyddiad?
Mae'r digwyddiad hwn yn agored i oedolion a defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA