Diwrnod Agored Ôl-raddedig
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr
Os ydych chi eisiau rhoi hwb i'ch rhagolygon ar ôl graddio, newid cyfeiriad i ddilyn llwybr gyrfaol newydd neu sicrhau eich bod yn rhagori ar y gystadleuaeth, hwyrach y bydd gradd ôl-raddedig yn eich helpu i gyrraedd eich nod.
Dewch i wybod rhagor yn ein Diwrnod Agored i Ôl-raddedigion ddydd Mercher 23 Tachwedd.
Mae gennym gymuned ôl-raddedig ffyniannus o fwy na 10,000 o fyfyrwyr sy'n astudio ar draws ystod amrywiol o fwy na 400 o raglenni ymchwil a rhaglenni a addysgir. Gan fod gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil ac addysgu rhagorol, rydyn ni yn y 20 prifysgol orau yn y DU o ran safon gyffredinol ein hymchwil (REF 2021) ac rydyn ni ymhlith y 40 prifysgol orau yn Ewrop o ran rhagoriaeth yr addysgu (Rhestr Addysgu Ewropeaidd 2022 y Times Higher Education).
Ymunwch â ni yn ein Diwrnod Agored Ôl-raddedig nesaf ddydd Mercher 23 Tachwedd pryd y gallwch chi:
- Siarad â staff yn ein hysgolion academaidd a dysgu mwy am ein 400+ o opsiynau astudio, gan gynnwys rhaglenni amser llawn, rhan-amser a dysgu o bell
- Dysgu am gyfleoedd ariannu, gan gynnwys cynllun Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr y Brifysgol gwerth £3,000
- Siarad â myfyrwyr ôl-raddedig presennol am eu profiad a chyngor ar wneud cais
- Dysgu am sut y byddwn ni’n estyn cymorth ichi drwy gydol eich astudiaethau ôl-raddedig a thu hwnt
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB